Cwestiynau Cyffredin
Mae’r adran hon yn cynnwys Cwestiynau Cyffredin am
Cyfarpar i gymunedau
Cronfa grant Cymunedau @Ei Gilydd
Cwestiynau Cyffredin am gyfarpar
Cwestiynau Cyffredin am y gronfa grant
Cwestiynau Cyffredin am gyfarpar
Pam y mae arnom angen Cymorth TG?
Mae angen cymorth ar gyfer eich system TG er mwyn delio â gwaith cynnal rheolaidd, fel hynny i ddiweddaru meddalwedd chwilio am feirysau a diogelwch, ac i ddelio ag unrhyw fethiant yn y system.
Beth yw rhwydwaith?
Ar ei symlaf, mae rhwydwaith yn cynnwys dau neu ragor o gyfrifiaduron sydd wedi’u cysylltu â’i gilydd i rannu gwybodaeth.
Pam y mae angen cael rhwydwaith?
Mae cyrff a mudiadau’n gallu cael llawer o fanteision o gael rhwydweithiau cyfrifiaduron gan gynnwys y gallu i gadw copïau wrth gefn o ffeiliau pwysig mewn un lle diogel a rhannu adnoddau fel cysylltiad â’r rhyngrwyd, argraffyddion, sganwyr, etc.
Beth yw gwe-letya?
Wedi ichi greu gwefan, mae angen ichi gael rhywle i’w “lletya”. Darparwyr arbenigol fydd yn gwe-letya fel arfer. Mae gwe-letywyr yn rhoi lle i chi ar weinydd (cyfrifiadur) lle gallwch storio’ch tudalennau gwe a ffeiliau eraill y wefan fel y gellir eu cyrraedd drwy’r Rhyngrwyd.
Cwestiynau Cyffredin am y gronfa grant
Pa mor aml y bydd y panel grantiau’n cwrdd?
Bydd y panel grantiau’n cwrdd bob dau fis. Cysylltwch â’r brocer lleol i gael y dyddiadau.
Mae ein grant wedi´i gymeradwyo - pa bryd y cawn yr arian?
Yn gyntaf, mae angen ichi anfon dogfennau yswiriant priodol, ffurflen hawlio wedi’i chwblhau a chopi wedi´i lofnodi o´r amodau a thelerau (fel y nodwyd yn y llythyr dyfarnu). Ar ôl gwirio a chymeradwyo´r rhain, rhoddir y taliad yn y rhediad BACS nesaf sydd ar gael. Mae´r rhain yn digwydd bob pythefnos.
A oes unrhyw arian ar ôl yn y gronfa grant?
Mae’r rhan fwyaf o’r gronfa grant wedi’i dyrannu, ond dylech siarad â’ch brocer beth bynnag i gofrestru’ch diddordeb.
Os wyf am newid y gyllideb, beth ddylwn ei wneud?
Cysylltwch â´r brocer lleol i gael arweiniad.