Defnyddiwch ein rhestr termau i ddeall y termau technegol.
Rhestr termau yn null Wiki yw hon sydd wedi'i golygu gan ein Broceriaid a'n haelodau cyswllt.
| Term | Definition |
|
|
| Amlgyfrwng |
Gwybodaeth sy’n cynnwys testun, graffeg, sain a fideo symudol. |
| Atodiad |
Ffeil sydd wedi’i rhoi ynghlwm wrth neges e-bost, e.e. dogfen, llun, clip cerddoriaeth neu fideo |
| BPS (didau yr eiliad) |
Mesuriad o ba mor gyflym yw eich cysylltiad rhyngrwyd. Mae cysylltiad deialu fel arfer yn 56 kbps, h.y. 56,000 did yr eiliad. Mae band llydan fel arfer yn 512 kbps (512,000) neu 1mbps (1 miliwn did yr eiliad) |
| Bar Dewislenni |
Bar ar dudalen We, ar draws pen uchaf y sgrin fel arfer, sy’n aros yn weladwy ac yn rhoi set o fotymau rheoli. Gall rhai botymau ar y bar dewislenni agor is-ddewislenni, neu gwymplenni, sy’n rhoi mwy o Ddewisiadau ichi. |
| Beit |
Hafal i 8 did. Mae un beit yn llai na gair ac fel arfer mae’n cynrychioli un nod. |
| Blog |
Byrfodd am ‘weblog’, cylchgrawn personol a gyhoeddir ar y We, a’i ddiweddaru’n gyson. Gall darllenwyr bostio’u sylwadau eu hunain. |
| Briwsion (‘cookies’) |
Gwybodaeth a gedwir ar eich cyfrifiadur wrth ichi ymweld â Gwefan, sy’n ddefnyddiol os byddwch yn mynd yn ôl i’r wefan honno; e.e. pan fydd Gwefan yn dweud ‘Croeso’n ôl’ mae wedi darllen briwsionyn a adawodd ar eich cyfrifiadur y tro diwethaf ichi ymweld â’r wefan. |
| CD-ROM (Cryno-Ddisg – Cof Darllen yn Unig) |
Fel CD cerddoriaeth, ond gall gynnwys gwybodaeth ar ffurf testun, graffeg, sain a fideo symudol y gellir mynd ati drwy gyfrifiadur. Gall CD-ROM storio cymaint o wybodaeth â rhyw 450 o ddisgiau meddal. |
| CDR (Cryno-Ddisg Recordiadwy) |
CD recordio – gellir defnyddio CDRs arferol i greu CDs cerddoriaeth; mae CDRs sain arbennig ar gael sy’n cynnig ansawdd sain gwell |
| CDRW (Cryno-Ddisg Ailysgrifenadwy) |
CD ail-recordiadwy sy’n caniatáu ysgrifennu’r data drosti dawl gwaith (hwylus ar gyfer diweddaru copi wrth gefn bob dydd) |
| CPU (uned brosesu ganolog) |
Prif brosesydd y cyfrifiadur sy’n gwneud i bopeth weithio |
| CRT (tiwb pelydrau catod) |
Monitor cyfrifiadur confensiynol – yr un sy’n debyg i set deledu. Yn drwm ac yn cymryd lle, ond yn rhatach |
| Camera Digidol |
Mae’n cofnodi ffotograffau mewn ffurf electronig fel y gall y defnyddiwr eu trosglwyddo i gyfrifiadur i’w storio, eu newid neu eu hymgorffori mewn ffeiliau eraill. |
| Cilobeit (Kb) |
Mesurir pellter mewn metrau, mesurir data mewn beitiau. Mae un cilobeit yn hafal i 1000 beit, neu’n fwy cywir, 1024 beit. Defnyddir ar gyfer ffeiliau a ffolderi. |
| DTP (Cyhoeddi Bwrdd Gwaith) |
Cyfuno testun, graffeg a chynllun i gynhyrchu dogfen orffenedig. |
| Data |
Gwybodaeth. |
| Dylunio â Chymorth Cyfrifiadur (CAD) |
Defnyddio cyfrifiaduron i ddylunio ar y sgrin. |
| Ebost (Post Electronig) |
Mae’n caniatáu i’r defnyddiwr anfon a derbyn negeseuon o un cyfrifiadur i un arall dros unrhyw bellter. |
| Eicon |
Llun bach a ddefnyddir ar gyfrifiaduron i gynrychioli gorchmynion. Gellir defnyddio llun bach o beiriant argraffu i gynrychioli’r gorchymyn “argraffu”. Wrth ddewis yr eicon gyda llygoden a chlicio arno byddwch yn gorchymyn i’r cyfrifiadur argraffu. |
| Fflam |
Neges ddifrïol, y gall cyfres ohonyn nhw ymchwyddo i’r hyn sy’n gyfwerth â chwffas ar-lein. Rhyfel fflamau yw’r term am hyn. |
| Ffolder |
Fel eich cwpwrdd ffeilio, mae’r lle storio ar eich cyfrifiadur wedi’i rannu’n ffolderi. Mae defnyddio ffolderi’n eich helpu i gadw gwybodaeth ar eich cyfrifiadur yn daclus. |
| Gigabeit (Gb) |
Mesurir pellter mewn metrau, mesurir data mewn beitiau. Mae un gigabeit yn hafal i 1000 megabeit, neu’n fwy cywir, 1024 megabeit. Defnyddir ar gyfer gyriannau caled. |
| Grwp Newyddion |
Hysbysfwrdd byd-eang ar y Rhyngrwyd – casgliad o negeseuon ac erthyglau wedi’u trefnu fesul pwnc. |
| Gwe 2.0 |
Dyma lle mae’r rhyngrwyd yn dod yn fyw! Gall defnyddwyr gyfrannu cynnwys yn hytrach na bod porthorion y cyfrwng yn rheoli cyfathrebu. Gallwch gymryd rhan mewn fforymau, rhannu lluniau, adolygu nwyddau, llwytho eich fideo eich hun neu ysgrifennu blog – y gall pawb o bob cwr o’r byd eu gweld a chynnig sylwadau arnynt. |
| HTML (Iaith Marcio Hyperdestun) |
Y cod a ddefnyddir i ysgrifennu tudalennau ar y We Fyd-eang. Mae HTML yn edrych yn debyg iawn i god cysodi hen-ffasiwn, lle amgylchynir bloc o destun â ‘thagiau’ sy’n nodi sut y dylai ymddangos ar y sgrin. Yn bwysig, mae HTML yn gadael ichi bennu bod bloc o destun, neu air, wedi’i ‘ddolennu’ â ffeil arall ar y Rhyngrwyd. |
| HTTP (Protocol Trosglwyddo Hyperdestun) |
Yr iaith y mae cyfrifiaduron yn ei defnyddio i drosglwyddo a derbyn ffeiliau ar y We Fyd-eang. Rydych yn dweud wrth eich cyfrifiadur am ddefnyddio’r iaith hon pan deipiwch http ar ddechrau cyfeiriad Gwefan. |
| ISP (Darparwr Gwasanaeth Rhyngrwyd) |
Y cwmni yr ydych yn talu iddo am eich mynediad i’r rhyngrwyd – bydd rhai’n cynnig gwasanaethau ychwanegol fel hidlo sbam, rheolaeth i rieni, cyfeiriadau ebost ychwanegol a lle ar y we |
| LCD (arddangosiad grisial hylif) |
Technoleg a ddefnyddir yn y rhan fwyaf o fonitorau sgrin fflat, sgriniau gliniaduron a dyfeisiau cludadwy eraill, e.e. camerâu |
| Megabeit (Mb) |
Mesurir pellter mewn metrau, mesurir data mewn beitiau. Mae 1Mb yn hafal i 1 miliwn beit. Defnyddir ar gyfer ffeiliau a ffolderi, a chof cyfrifiadur RAM. |
| Modem |
Y ddyfais sy’n troi signalau digidol y cyfrifiadur yn sain fel y gellir ei drosglwyddo dros y llinell ffôn. Mewn geiriau eraill, yn union fel y codwn ni’r ffôn i siarad â’n gilydd, bydd cyfrifiadur yn codi modem i siarad â chyfrifiadur arall dros y llinell ffôn. |
| Monitor |
Y darn o’ch cyfrifiadur gyda’r sgrin. |
| Negeseua gwib (e.e. MSN, Yahoo Messenger) |
Cyfnewid negeseuon mewn amser real dros y Rhyngrwyd. I anfon a derbyn negeseuon gwib, mae angen cysylltiad â’r Rhyngrwyd a meddalwedd negeseua gwib (mae’r rhai mwyaf poblogaidd ar gael am ddim). Byddwch yn sefydlu rhestr o gysylltiadau, felly yn wahanol i ystafelloedd sgwrsio, mae rhywfaint o reolaeth dros bwy all gysylltu â chi. |
| P2P (cymar-i-gymar) |
Rhannu ffeiliau – rhannu cerddoriaeth neu fideo dros y rhyngrwyd. Gallai hyn dorri cyfraith hawlfraint, felly byddwch yn ofalus. |
| PDF (fformat dogfen gludadwy) |
Fformat ffeil gyffredinol, y gellir ei darllen pa bynnag fath o gyfrifiadur a ddefnyddir. Mae angen Adobe Acrobat i ddarllen ffeiliau PDF, rhaglen sydd ar gael i’w llwytho i lawr am ddim. |
| RAM (Cof hapgyrch) |
Cof tymor byr cyfrifiadur, a ddefnyddir i brosesu, ond a gollir pan ddiffoddir y cyfrifiadur. |
| ROM (Cof Darllen-yn-unig) |
Gall prosesydd y cyfrifiadur ei ddarllen, ond nid ei newid. Mae’n dal y wybodaeth hanfodol i’r cyfrifiadur weithio. |
| Sbam |
Post sothach ar y Rhyngrwyd. |
| TFT (transistor ffilm denau) |
Monitor sgrin fflat – y cydraniad gorau, ond y dewis drutaf |
| URL (Lleolydd Adnoddau Unffurf) |
Cyfeiriad Gwefan. Am ei fod yn gyffredin i bawb, gall unrhyw un ei deipio i mewn i’w cyfrifiadur a chanfod eich Gwefan. |
| USB (bws cyfres cyffredinol) |
Soced ar gyfer plygio dyfeisiau ychwanegol i mewn, e.e. peiriannau argraffu, camerâu, llygoden, bysellfwrdd |
| Wici |
Cynnwys ar y we y gall unrhyw ymwelydd ei olygu neu ychwanegu ato, gan ddefnyddio unrhyw borwr. Y wici mwyaf yw wikipedia, gwyddoniadur ar-lein. |