Gweld Lansio’r Wefan
Cafodd gwefan Cymunedau @Ei Gilydd ei lansio’n swyddogol gan y Dirprwy Weinidog dros Adfywio, Leighton Andrews, ar 19eg Rhagfyr 2007. Fe’i cynhaliwyd yn Merit, un o’r prosiectau a gefnogir gan Cymunedau @Ei Gilydd ym Merthyr. Cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog ddwy garreg filltir a gyrhaeddwyd gan Cymunedau @Ei Gilydd hefyd - bod dros 200 o brosiectau wedi cael eu cefnogi gan dros £6 miliwn o gyllid.
Gallwch weld lluniau a dynnwyd yn y digwyddiad yma, yn ogystal â fideo o araith y Dirprwy Weinidog, ei groeso i’r wefan a phodlediadau sy’n cynnwys aelodau Merit a’r prosiect cyfagos Megebytes.