Preifatrwydd

Annwyl Ymwelydd,

Pwrpas y wefan hon yw cynnig fforwm trafod a gwybodaeth berthnasol am gynhwysiant digidol. Mae Cymunedau @Ei Gilydd wedi ymrwymo i ddiogelu a pharchu’ch preifatrwydd ar–lein. Mae’r datganiad hwn yn nodi ein Polisi Preifatrwydd ac yn egluro beth yr ydym yn ei wneud â’r wybodaeth bersonol yr ydym yn ei chasglu oddi wrth ein defnyddwyr. Byddwch cystal â’i ddarllen er mwyn deall sut yr ydym yn defnyddio’ch gwybodaeth bersonol.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am breifatrwydd ar y wefan hon, anfonwch neges e–bost atom yn info@communitiesatone.org
Aimee Shanahan
Swyddog Marchnata

Pa wybodaeth arall amdanoch yr ydym yn ei chasglu?

O bryd i’w gilydd, gofynnir ichi gyflwyno gwybodaeth bersonol amdanoch eich hun (e.e. enw a chyfeiriad e-bost) er mwyn derbyn neu ddefnyddio gwasanaethau ar ein gwefan. Mae’r gwasanaethau hynny’n cynnwys cylchlythyrau, cystadlaethau, byrddau negeseuon a gwahoddiadau i ddigwyddiadau.
Gorau po fwyaf y byddwn yn gwybod amdanoch fel y gallwn addasu ein gwasanaethau i fodloni’ch anghenion, ond y wybodaeth y byddwn yn ei chasglu a’i defnyddio fydd y leiaf posibl y bydd ei hangen i ddarparu, datblygu a gwella ein gwasanaethau ar eich cyfer, ac mae hynny’n cynnwys rhoi gwybod i chi am wasanaethau, digwyddiadau a chyfleoedd eraill.
Ni fydd y wybodaeth a gofnodir amdanoch yn cael ei rhentu na’i darparu i unrhyw fusnes neu gorff arall heblaw Canolfan Cydweithredol Cymru sy’n rheoli Cymunedau @Ei Gilydd.

Fforymau, blogiau a’r maes adnoddau cymunedol

Dylech gofio y bydd y cyhoedd yn gallu gweld unrhyw wybodaeth gyhoeddus yr ydych yn ei gosod ar unrhyw fforwm, blog neu faes adnoddau ar y Wefan neu drwy gyfrwng y Wefan. Er mwyn cyfrannu i’r meysydd hynny, bydd angen ichi gofrestru i ddefnyddio’r wefan a derbyn ein telerau defnydd fel y gallwch fewngofnodi ac ychwanegu’ch sylwadau neu’ch deunyddiau.

Negeseuon e-bost

Ni fyddwn yn anfon unrhyw gylchlythyrau neu ddeunydd marchnata atoch drwy’r e-bost ar unrhyw adeg oni bai eich bod wedi dewis eu derbyn yn benodol.

Byddwn hefyd yn cynnwys tywysyddion gwe (a elwir hefyd yn GIFs clir neu’n fygiau gwe) yn ein negeseuon e-bost i dracio llwyddiant ein hymgyrchoedd marchnata. Mae hynny’n golygu, os byddwch yn agor neges e-bost oddi wrthym, y byddwn yn gallu gweld dyddiad ac amser y gweithgarwch hwnnw, ac os cliciwch ar unrhyw un o’r dolenni yn y cylchlythyr, y byddwn yn cofnodi’r tudalennau ar ein gwefan y byddwch yn mynd atynt.

Mae pob neges e-bost a anfonir yn cynnwys dull hawdd, awtomataidd i atal unrhyw negeseuon e-bost pellach oddi wrthym, neu i newid eich dewisiadau. Os ydych am wneud hynny, nid oes ond rhaid ichi ddilyn y cyfarwyddiadau sydd ar waelod pob neges e-bost.

Adrodd ar Weithgarwch ar y We

Rydym yn defnyddio ‘Google Analytics’ i fonitro’r defnydd o’n gwefan. Mae’r rhaglen hon yn cofnodi’ch cyfeiriad IP (darparwr rhyngrwyd), y math o borwr a dyddiad ac amser y gweithgarwch. Nid oes unrhyw gyswllt rhwng yr wybodaeth honno a data sy’n dangos pwy ydych (fel cyfeiriad e-bost). Bydd Cymunedau @Ei Gilydd yn defnyddio’r wybodaeth hon i ddadansoddi’r ymweliadau â’n tudalennau’n gyffredinol a’r gweithgarwch gan atgyfeirwyr er mwyn cael syniad o’r patrymau traffig a’r cynnwys sy’n boblogaidd.