Mae fforwm trafod yr Arloeswyr Digidol a maes y Gymuned i fod yn anffurfiol, ond rydym yn gofyn ichi dderbyn y telerau defnydd canlynol:
Testunau
Mae’r fforwm a’r maes adnoddau wedi’u bwriadu ar gyfer trafodaethau sy’n ymwneud â chynhwysiant digidol a defnyddio TGCh mewn cyrff gwirfoddol a chymunedol, ac ar gyfer rhannu gwybodaeth gyda phrosiectau eraill Cymunedau @Ei Gilydd.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am eich cais am grant, cysylltwch yn uniongyrchol â’ch brocer <mynd at ‘cwrdd â’r tîm’> neu Cymunedau @Ei Gilydd.
Cyfrifoldeb dros bostiadau
Mae Safonwyr y Fforwm yn monitro negeseuon ar y fforwm hwn. Gwnawn ein gorau glas i ddileu sylwadau amhriodol neu i gywiro gwybodaeth sy’n anghywir. Mae’r farn a fynegir ym mhostiadau’r fforwm yn eiddo i’w priod awduron yn unig ac nid yw’n adlewyrchu barn Cymunedau @Ei Gilydd, Canolfan Cydweithredol Cymru, na’r cyrff sy’n gysylltiedig ag ef. Ni cheir dal Cymunedau @Ei Gilydd, Canolfan Cydweithredol Cymru, na’r cyrff sy’n gysylltiedig ag ef, yn gyfrifol am gynnwys unrhyw negeseuon neu ganlyniadau gweithredu ar sail y cynnwys hwnnw.
Postiadau Derbyniol
Mae defnyddwyr y fforwm hwn yn cytuno i beidio â phostio unrhyw ddeunydd o natur dramgwyddus neu sarhaus, neu unrhyw wybodaeth sy’n fwriadol gamarweiniol. Os ceir anghytundeb, bydd defnyddwyr yn cytuno i anghytuno gan ddangos parch at ei gilydd. Byddwch cystal â rhoi gwybod am unrhyw bostiadau amhriodol i’r Safonwr gan ddefnyddio’r botwm "rhoi gwybod am y postiad hwn" ar y fforwm.
Yr hawl i ddileu deunydd
Gellir dileu unrhyw ddeunydd y mae’r safonwyr yn teimlo ei fod yn dramgwyddus, yn sarhaus neu’n fwriadol gamarweiniol heb roi rhybudd.
Dim deunydd hawlfraint
Rydym yn eich annog i bostio adnoddau yr ydych yn barod i’w rhannu i faes y Gymuned, ond cofiwch y gellir eu dosbarthu ac y gall eraill eu haddasu. Nid oes dim o’r cynnwys sydd wedi’i bostio ar y wefan sydd ar gael i’w ailwerthu.
Ni chaiff defnyddwyr bostio deunydd sydd dan hawlfraint ar y fforymau hyn, ac eithrio dan y deddfau presennol ar ddefnydd teg.
Gallwch bostio dolenni i erthyglau sydd ar gael mewn mannau eraill ar y we. Ni chaniateir postio dolenni i ddeunydd sydd wedi’i ladrata.
Dim hysbysebu
Mae sylwadau dilys sy’n argymell cynhyrchion yn dderbyniol, ond nid fforwm i hysbysebwyr yw hwn. Mae’r safonwyr yn cadw’r hawl i ddileu unrhyw bostiadau y maent yn credu eu bod wedi’u gosod er mwyn cael elw masnachol.
Enwau defnyddwyr derbyniol
Ni chaiff enwau defnyddwyr fod yn dramgwyddus neu’n sarhaus. Os bydd defnyddwyr yn dewis enw defnyddiwr y mae’r safonwyr yn ei ystyried yn dramgwyddus neu’n sarhaus, dileir eu cyfrifon a’u holl bostiadau heb roi rhybudd.
Mewngofnodi
Ni chaniateir mewngofnodi dan enw rhywun arall. Os amheuir bod defnyddwyr yn mewngofnodi gan ddefnyddio manylion personol rhywun arall, atalir eu cyfrifon.
Anghydfod
Caiff y safonwyr ddileu postiadau amhriodol, neu atal cyfrif defnyddiwr nad yw’n dal at y telerau hyn. Os bydd defnyddiwr yn teimlo bod safonwr wedi gweithredu’n annheg wrth ddileu postiadau neu atal cyfrif, dylai’r defnyddiwr gysylltu â gweinyddwr y wefan. Bydd penderfyniad gweinyddwr y wefan yn derfynol.
Cofnodi gwybodaeth
Cofnodir y cyfeiriad IP a ddefnyddir i osod pob postiad. Ni fydd ond yn cael ei ddefnyddio i ganfod enwau rhai sydd wedi postio deunydd tramgwyddus neu anghyfreithlon, ond gellir ei ddefnyddio hefyd i atal rhai sy’n gosod postiadau sy’n peri niwsans.
Deddf Diogelu Preifatrwydd Ar-lein Plant 2000
Er mwyn gweithredu’n unol â Deddf Diogelu Preifatrwydd Ar-lein Plant, mae’n ofynnol cael caniatâd gan riant neu warcheidwad i blant dan 13 oed gael cyfrannu i’r wefan hon.
http://www.ceop.gov.uk/index.asp